P-05-1156 Dylid cyfateb y cyllid ar gyfer busnesau bach yn ystod y cyfyngiadau symud gyda Lloegr - gan gynnwys y grant ailgychwyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sally Gillard, ar ôl casglu cyfanswm o 2,458 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yng Nghymru, busnesau bach sydd wedi cael y lefel isaf o gyllid allan o holl wledydd y DU yn ystod y trydydd cyfnod clo cenedlaethol - er iddynt fod o dan gyfyngiadau symud am gyfnod hirach.
O heddiw ymlaen, cyhoeddodd Rishi Sunak grant ailgychwyn ar gyfer busnesau bach i helpu gydag ailagor busnesau.
Rwy’n annog Lywodraeth Cymru i gefnogi ein busnesau lleiaf yn iawn, a darparu grantiau sy’n cyfateb i’r hyn a roddir i berchnogion busnesau bach yng ngwledydd eraill y DU.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rishi Sunak – cyllideb mis Mawrth 2021
Gallwch weld cymhariaeth o gyllid holl wledydd y DU ar gyfer cyfnod clo 3 drwy wirio cyllid pob gwlad ar wefannau llywodraethau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pontypridd
· Canol De Cymru